Llyfrgell Gladstone yn llwyddo i sicrhau cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg Gogledd Cymru wedi cael £126,729 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect i helpu pobl ifanc i ymgysylltu â hanes.
Bydd y prosiect yn grymuso pobl ifanc (16-24 oed) i archwilio ac i drafod themâu Gladstonaidd cyffredinol, gan gynnwys goddefgarwch crefyddol, hawliau dynol a democratiaeth, a herio pynciau hanesyddol a chyfoes fel caethwasiaeth, gwladychiaeth, a hawliau lleiafrifol.
Bydd yr arian yn galluogi Llyfrgell Gladstone i ddatblygu a chyflwyno cyfres o weithdai a gweithgareddau ymgysylltu peilot wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer grwpiau, gan gynnwys disgyblion ysgolion uwchradd, myfyrwyr ac aelodau clybiau ieuenctid.
Bydd y ffocws ar ddysgu pethau newydd, ymgysylltu â hanes a threftadaeth sy'n dal yn berthnasol i faterion cyfoes ac ymarfer sut i gael sgyrsiau parchus a heriol i ddatblygu a chyfoethogi dysgu.
Bydd y grwpiau hefyd yn dysgu am Lyfrgell Gladstone a William Gladstone – a sut y datblygodd a newidiodd ei safbwyntiau yn ystod ei oes, a byddant yn cael eu gwahodd i weld casgliadau'r Llyfrgell, gan gynnwys llyfrau hanesyddol a deunydd archif.
Dywedodd y Parchedig Dr Andrea Russell, Warden Llyfrgell Gladstone: “Rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth gan y Gronfa Treftadaeth, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, i hwyluso cyfres newydd o weithgareddau dysgu ac ymgysylltu ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed.
"Rydym ni eisiau ehangu cyrhaeddiad y Llyfrgell a defnyddio ein casgliadau unigryw fel man cychwyn ar gyfer sgyrsiau a dysgu drwy weithio gydag ysgolion, grwpiau a sefydliadau ieuenctid lleol.
“Ein gobaith yw y bydd cysylltu’r gweithdai â materion a phryderon cyfoes yn arwain at newid mewn syniadau ac at gamau gweithredu cadarnhaol. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gronfa Treftadaeth am gefnogi ein huchelgais i weithio gyda phobl ifanc, ac rydym hefyd yn hynod ddiolchgar am ymrwymiad a brwdfrydedd parhaus ein hymwelwyr, ein ffrindiau a’n rhoddwyr presennol.
“Mae eu cefnogaeth yn hanfodol i’n llwyddiant parhaus ac i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol, er enghraifft, helpodd rhodd cymynrodd hael iawn i ni sicrhau cyllid y prosiect hwn gan y Gronfa Treftadaeth.
"Mae Llyfrgell Gladstone yn lle gwirioneddol unigryw i ymgolli yn rhyfeddodau dysgu, ymchwil ac astudio tawel, sy'n rhywbeth rydym wedi ymrwymo'n llwyr iddo."
Gyda chymorth o £126,729 gan y Gronfa Treftadaeth, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect yn Llyfrgell Gladstone yn rhedeg am oddeutu 18 mis. Bydd y Llyfrgell hefyd yn cynnal cyfres o astudiaethau dichonoldeb gan weithio gyda phenseiri, swyddogion cadwraeth, archifwyr, ac ymgynghorwyr busnes a threftadaeth addas.
Bydd adborth, canlyniadau a gwerthusiad y prosiect hwn ac astudiaethau dichonoldeb yn helpu i lywio sut bydd y Llyfrgell yn esblygu dros y pump i ddeng mlynedd nesaf.