Blog...

Menywod y Llyfrgell

Gan Alice Cleave – Swyddog Ymgysylltu a Dysgu

Dros y mis diwethaf rydyn ni wedi cynnal sawl sesiwn yn ymwneud â Menywod y Llyfrgell. Bydd y blog hwn yn rhoi cipolwg i chi ar ddatblygiad un o’n sesiynau ymgysylltu a dysgu, o’r syniad cychwynnol i’r cynnyrch gorffenedig.

Y Syniad

Mae’r rhan fwyaf o’n sesiynau yn canolbwyntio ar W. E. Gladstone a’i werthoedd rhyddfrydol a’i waddol, ond gyda Menywod y Llyfrgell, roeddem eisiau tynnu sylw at rôl menywod yn natblygiad y sefydliad, yn ogystal â thaflu goleuni ar hanes menywod sydd yn ein casgliadau. Yn ystod fy nghyfnod yn y Llyfrgell, rydw i wedi bod yn casglu pytiau o sgyrsiau a gefais gydag aelodau tîm yr Ystafelloedd Darllen am wahanol fenywod a’u cysylltiadau â’r casgliadau. Gan bwyll bach, dechreuodd y weledigaeth ddatblygu o ran yr hyn ddylai’r sesiwn fod amdani, ac elfen allweddol oedd fy mod eisiau cynhyrchu llinell amser o’r Llyfrgell drwy lens menywod. Roeddwn i eisiau tynnu sylw at y menywod yn y casgliadau, yn enwedig o hanes, yn ogystal â’r menywod sy’n gweithio yn y Llyfrgell ar hyn o bryd.

Yr Ymchwil

Nid yw fy agwedd at ymchwil wedi newid rhyw lawer ers ysgrifennu traethodau yn y brifysgol. Rwy’n hoffi dechrau’n fawr ac edrych ar yr holl lwybrau gwahanol y gallai’r prosiect eu cymryd cyn eu cyfyngu ymhellach. Ar ôl cyfarfod â’n Llyfrgellydd a’n Harchifydd, roedd gen i set ddi-drefn o nodiadau (oherwydd y ffordd rydw i’n gweithio yn hytrach na nhw) a dros bymtheg o gyfeiriadau gwahanol y gallwn i fynd ar eu trywydd. Yna cymerais beth amser i feddwl am y themâu allweddol roeddwn eisiau eu cynnwys yn y sesiwn. Yn y pen draw, penderfynais mai’r prif themâu oedd, sut rydych chi’n dod o hyd i hanes menywod, rôl menywod mewn cymdeithas ar adegau gwahanol a rôl enw. Efallai eu bod nhw’n ymddangos yn haniaethol iawn ac yn eang, ond fe wnaethon nhw helpu i roi ffocws i gynnwys y sesiwn. Gyda’r pwyslais cyfyng hwn, roedd yn hawdd symud ymlaen gyda’r ymchwil a chasglu gwybodaeth am y gwahanol fenywod yn ein casgliadau. Gan fwyaf, roeddwn yn adeiladu ar y wybodaeth a gasglwyd gan ein Llyfrgellydd a thîm yr Ystafelloedd Darllen yn y gorffennol.

Yr Adnoddau

Y cam nesaf oedd trosi’r ymchwil yn adnoddau ymarferol y gellid eu defnyddio yn y sesiwn a’u haddasu i fodloni anghenion grwpiau gwahanol. Yr elfen fwyaf o’r gwaith oedd casglu’r wybodaeth ar gyfer y llinell amser oherwydd, fel y trafodwyd yn ystod ein sesiwn, nid yw hanes menywod wastad yn hawdd i’w ganfod. Roeddem yn gallu adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y gorffennol o fewn y Llyfrgell ar gyfer Mis Hanes Menywod, a oedd yn ei gwneud yn dasg llawer llai beichus. Unwaith y cwblhawyd yr ymchwil a phenderfynwyd ar fformat y llinell amser, mater o fewnbynnu’r wybodaeth oedd hi.

Y rhan anoddaf oedd penderfynu pa eitemau o’r casgliadau i’w defnyddio fel rhan o’r sesiwn. Yn ystod y cyfnod ymchwil daeth nifer o wahanol ffynonellau i’r amlwg a oedd yn hynod o ddiddorol, ond nid yw popeth yn addas ar gyfer sesiwn, ceir rhai meini prawf y mae angen iddyn nhw eu bodloni. Mae’n bwysig bod yr eitemau rydyn ni’n eu defnyddio o’r casgliadau yn hygyrch i’r gwahanol grwpiau oedran rydyn ni’n gweithio â nhw tra’n parhau i’w herio i ystyried syniadau newydd. Roeddem wedi penderfynu digido rhai eitemau o’r casgliadau er mwyn cynnwys mwy o hyblygrwydd yn y sesiwn. Mae’n bwysig ystyried pa mor ffisegol yw eitem sy’n cael ei digido, nid dim ond ei chynnwys, gan fod pamffledi’n digido’n dda, lle mae’r gwrthwyneb yn wir gyda lliain sychu llestri. Fe wnaethom ddigido a chreu ffacsimili o sawl pamffled rhoi’r bleidlais i fenywod, a ysgrifennwyd gan fenywod o blaid ac yn erbyn rhoi’r bleidlais i fenywod. Fe wnaethom hefyd ddigido nifer o lythyrau a anfonwyd at Gladstone gan fenywod, yn ogystal â’r ohebiaeth rhwng Catherine Gladstone a’r Frenhines Victoria.

Wrth gynllunio’r sesiwn, roedd yn bwysig tanlinellu cyfoeth yr adnoddau sydd gennym yn y Llyfrgell sy’n ymwneud â hanes menywod. Serch hynny, roedd hynny’n golygu pan ddaeth ein Llyfrgellydd a finnau ati i ddewis y llyfrau, fe wnaethom adael y storfa llyfrau prin gyda thua ugain o gyfrolau, yn hytrach na’r 5 roeddwn i wedi bwriadu eu defnyddio. Er bod dod o hyd i le i’w harddangos ychydig yn heriol, dydw i ddim yn difaru ar ôl gweld grŵp o Geidwaid yn holi cwestiynau’n frwd ac yn dangos diddordeb ynddyn nhw.

Y Sesiynau

Mae strwythur ein sesiynau Menywod y Llyfrgell yn newid yn dibynnu ar y gynulleidfa. Pan gafwyd grŵp o Geidwaid (14-18 oed) , defnyddiwyd cymorth ein Llyfrgellydd a’i gwybodaeth o ymchwilio i hanes menywod. Cawsom sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar gasgliadau a manteisiwyd ar y ffaith bod yr Ystafell Hanes ar gau er mwyn arddangos yr eitemau. Trefnwyd gweithgaredd creadigol i orffen, ac ni chafwyd digon o amser oherwydd roedd y Ceidwaid wrth eu bodd yn edrych ar yr eitemau.

Pan ddaeth y Brownis a’r Geidiaid (7-14 oed) yma ar gyfer digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol  y Menywod, cawsant gyfle i weithio gyda’r llinell amser drwy daflen waith ac yna ystyried beth y gallent fod eisiau ei wneud fel swydd yn y dyfodol. Roedd y llinell amser yn caniatáu iddyn nhw gysylltu â’r casgliadau mewn ffordd hygyrch. Gan fod y sesiwn gyda’r nos, gwnaethom hefyd ddefnyddio’r Ystafell Hanes er mwyn iddyn nhw weld a theimlo llyfrau hanesyddol (o dan oruchwyliaeth ein Llyfrgellydd) ac yna gwneud eu llyfr eu hunain.

Addaswyd y sesiwn eto i weddu i gynulleidfa fwy academaidd, sef myfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caer. Symudwyd pwyslais y sesiwn rhywfaint er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar lenyddiaeth a ysgrifennwyd gan fenywod, tra’n dal i’w cyflwyno i syniadau ynglŷn ag astudio hanes menywod.  Cafwyd cyfle i weithio gyda’r llinell amser ac amrywiaeth o eitemau o’n casgliadau. Roedd yn ddiddorol gwrando ar sut roedden nhw’n dod o hyd i gysylltiadau â’u hymchwil a’u dysg eu hunain a’r wybodaeth a oedd yn apelio atyn nhw.

Y Gwerthuso

Rydyn ni wastad yn gofyn am werthusiad ar ddiwedd ein sesiynau oherwydd mae’n ddefnyddiol gwybod beth sy’n gweithio’n dda a beth allai gael ei newid. Mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol o fesur y wybodaeth allweddol y mae unigolyn yn ei chael o sesiwn. Dyma rai engreifftiau o’r hyn a ddysgwyd yn sesiwn Menywod y Llyfrgell

  • “Fe wnes i ddysgu am berchnogaeth llyfrau ymhlith menywod ac agraffu mewn hanes ac roedd gen i ddiddordeb mewn darganfod sut gellir eu holrhain”
  •  “Ynglŷn â sut roedd menywod yn rhoi llyfrau fel anrhegion ac yn berchen ar lyfrau“
  • “Effaith menywod mewn hanes a’u rôl mewn llenyddiaeth”
  • “Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu am fenywod y Llyfrgell”

Mae hyn i gyd yn newyddion gwych pan fyddwn yn ystyried amcanion cychwynnol ein sesiwn.

Gobeithio bod hyn wedi rhoi cipolwg ar rywfaint o waith y tîm Ymgysylltu a Dysgu yma yn Llyfrgell Gladstone.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod sut gallem weithio gyda’ch grŵp, ysgol, coleg neu brifysgol.

Cefnogir swyddi’r Swyddogion Ymgysylltu a Dysgu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

To read this blog in English please click here